Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 8:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos at Pharo, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.

2. Ac os gwrthodi eu gollwng, wele, mi a drawaf dy holl derfynau di â llyffaint.

3. A'r afon a heigia lyffaint, y rhai a ddringant, ac a ddeuant i'th dŷ, ac i ystafell dy orweddle, ac ar dy wely, ac i dŷ dy weision, ac ar dy bobl, ac i'th ffyrnau, ac ar dy fwyd gweddill.

4. A'r llyffaint a ddringant arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dy holl weision.

5. Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy law â'th wialen ar y ffrydiau, ar yr afonydd, ac ar y llynnoedd; a gwna i lyffaint ddyfod i fyny ar hyd tir yr Aifft.

6. Ac Aaron a estynnodd ei law ar ddyfroedd yr Aifft; a'r llyffaint a ddaethant i fyny, ac a orchuddiasant dir yr Aifft.

7. A'r swynwyr a wnaethant yr un modd, trwy eu swynion; ac a ddygasant i fyny lyffaint ar wlad yr Aifft.

8. Yna Pharo a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Gweddïwch ar yr Arglwydd, ar iddo dynnu'r llyffaint ymaith oddi wrthyf fi, ac oddi wrth fy mhobl; a mi a ollyngaf ymaith y bobl, fel yr aberthont i'r Arglwydd.

9. A Moses a ddywedodd wrth Pharo, Cymer ogoniant arnaf fi; Pa amser y gweddïaf trosot, a thros dy weision, a thros dy bobl, am ddifa'r llyffaint oddi wrthyt, ac o'th dai, a'u gadael yn unig yn yr afon?

10. Ac efe a ddywedodd, Yfory. A dywedodd yntau, Yn ôl dy air y bydd; fel y gwypech nad oes neb fel yr Arglwydd ein Duw ni.

11. A'r llyffaint a ymadawant â thi, ac â'th dai, ac â'th weision, ac â'th bobl; yn unig yn yr afon y gadewir hwynt.

12. A Moses ac Aaron a aethant allan oddi wrth Pharo. A Moses a lefodd ar yr Arglwydd, o achos y llyffaint y rhai a ddygasai efe ar Pharo.

13. A'r Arglwydd a wnaeth yn ôl gair Moses; a'r llyffaint a fuant feirw o'r tai, o'r pentrefydd, ac o'r meysydd.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 8