Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 7:20-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. A Moses ac Aaron a wnaethant fel y gorchmynnodd yr Arglwydd: ac efe a gododd ei wialen, ac a drawodd y dyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon, yng ngŵydd Pharo, ac yng ngŵydd ei weision; a'r holl ddyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon a drowyd yn waed.

21. A'r pysgod, y rhai oeddynt yn yr afon, a fuant feirw; a'r afon a ddrewodd, ac ni allai yr Eifftiaid yfed dwfr o'r afon; a gwaed oedd trwy holl wlad yr Aifft.

22. A swynwyr yr Aifft a wnaethant y cyffelyb trwy eu swynion: a chaledodd calon Pharo, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd.

23. A Pharo a drodd ac a aeth i'w dŷ, ac ni osododd hyn at ei galon.

24. A'r holl Eifftiaid a gloddiasant oddi amgylch yr afon am ddwfr i'w yfed; canys ni allent yfed o ddwfr yr afon.

25. A chyflawnwyd saith o ddyddiau, wedi i'r Arglwydd daro'r afon.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 7