Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 7:10-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A Moses ac Aaron a aethant i mewn at Pharo, ac a wnaethant felly, megis y gorchmynasai yr Arglwydd: ac Aaron a fwriodd ei wialen gerbron Pharo, a cherbron ei weision; a hi a aeth yn sarff.

11. A Pharo hefyd a alwodd am y doethion, a'r hudolion: a hwythau hefyd, sef swynwyr yr Aifft, a wnaethant felly trwy eu swynion.

12. Canys bwriasant bob un ei wialen; a hwy a aethant yn seirff: ond gwialen Aaron a lyncodd eu gwiail hwynt.

13. A chalon Pharo a galedodd, fel na wrandawai arnynt hwy; megis y llefarasai yr Arglwydd.

14. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Caledodd calon Pharo; gwrthododd ollwng y bobl ymaith.

15. Dos at Pharo yn fore: wele efe a ddaw allan i'r dwfr; saf dithau ar lan yr afon erbyn ei ddyfod ef; a chymer yn dy law y wialen a drodd yn sarff.

16. A dywed wrtho ef, Arglwydd Dduw yr Hebreaid a'm hanfonodd atat, i ddywedyd, Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont yn yr anialwch: ac wele, hyd yn hyn, ni wrandewit.

17. Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Wrth hyn y cei wybod mai myfi yw yr Arglwydd: wele, myfi â'r wialen sydd yn fy llaw a drawaf y dyfroedd sydd yn yr afon, fel y troer hwynt yn waed.

18. A'r pysg sydd yn yr afon a fyddant feirw, a'r afon a ddrewa; a bydd blin gan yr Eifftiaid yfed dwfr o'r afon.

19. Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Cymer dy wialen, ac estyn dy law ar ddyfroedd yr Aifft, ar eu ffrydiau, ar eu hafonydd, ac ar eu pyllau, ac ar eu holl lynnau dyfroedd, fel y byddont yn waed; a bydd gwaed trwy holl wlad yr Aifft, yn eu llestri coed a cherrig hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 7