Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 7:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Gwêl, mi a'th wneuthum yn dduw i Pharo: ac Aaron dy frawd fydd yn broffwyd i tithau.

2. Ti a leferi yr hyn oll a orchmynnwyf i ti; ac Aaron dy frawd a lefara wrth Pharo, ar iddo ollwng meibion Israel ymaith o'i wlad.

3. A minnau a galedaf galon Pharo, ac a amlhaf fy arwyddion a'm rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft.

4. Ond ni wrendy Pharo arnoch: yna y rhoddaf fy llaw ar yr Aifft; ac y dygaf allan fy lluoedd, fy mhobl, meibion Israel, o wlad yr Aifft, trwy farnedigaethau mawrion.

5. A'r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan estynnwyf fy llaw ar yr Aifft, a dwyn meibion Israel allan o'u mysg hwynt.

6. A gwnaeth Moses ac Aaron fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddynt; ie, felly y gwnaethant.

7. A Moses ydoedd fab pedwar ugain mlwydd, ac Aaron yn fab tair blwydd a phedwar ugain, pan lefarasant wrth Pharo.

8. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

9. Pan lefaro Pharo wrthych, gan ddywedyd, Dangoswch gennych wyrthiau; yna y dywedi wrth Aaron, Cymer dy wialen, a bwrw hi gerbron Pharo; a hi a â yn sarff.

10. A Moses ac Aaron a aethant i mewn at Pharo, ac a wnaethant felly, megis y gorchmynasai yr Arglwydd: ac Aaron a fwriodd ei wialen gerbron Pharo, a cherbron ei weision; a hi a aeth yn sarff.

11. A Pharo hefyd a alwodd am y doethion, a'r hudolion: a hwythau hefyd, sef swynwyr yr Aifft, a wnaethant felly trwy eu swynion.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 7