6. Am hynny dywed wrth feibion Israel, Myfi yw yr Arglwydd; a myfi a'ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid, ac a'ch rhyddhaf o'u caethiwed hwynt; ac a'ch gwaredaf â braich estynedig, ac â barnedigaethau mawrion.
7. Hefyd mi a'ch cymeraf yn bobl i mi, ac a fyddaf yn Dduw i chwi: a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid.
8. A mi a'ch dygaf chwi i'r wlad, am yr hon y tyngais y rhoddwn hi i Abraham, i Isaac, ac i Jacob; a mi a'i rhoddaf i chwi yn etifeddiaeth: myfi yw yr Arglwydd.
9. A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyngdra ysbryd, a chan gaethiwed caled.
10. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
11. Dos i mewn; dywed wrth Pharo, brenin yr Aifft, am iddo ollwng meibion Israel allan o'i wlad.
12. A Moses a lefarodd gerbron yr Arglwydd, gan ddywedyd, Wele, plant Israel ni wrandawsant arnaf fi; a pha fodd y'm gwrandawai Pharo, a minnau yn ddienwaededig o wefusau?
13. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, ac a roddodd orchymyn iddynt at feibion Israel, ac at Pharo brenin yr Aifft, i ddwyn meibion Israel allan o wlad yr Aifft.
14. Dyma eu pencenedl hwynt: meibion Reuben, y cyntaf‐anedig i Israel: Hanoch, a Phalu, Hesron, a Charmi: dyma deuluoedd Reuben.
15. A meibion Simeon; Jemwel, a Jamin, Ohad, a Jachin, Sohar hefyd, a Saul mab y Ganaanëes: dyma deuluoedd Simeon.
16. Dyma hefyd enwau meibion Lefi, yn ôl eu cenedlaethau; Gerson, Cohath hefyd, a Merari: a blynyddoedd oes Lefi oedd gant ac onid tair blynedd deugain.
17. Meibion Gerson; Libni, a Simi, yn ôl eu teuluoedd.
18. A meibion Cohath; Amram, ac Ishar, Hebron hefyd, ac Ussiel: a blynyddoedd oes Cohath oedd dair ar ddeg ar hugain a chan mlynedd.
19. Meibion Merari oedd Mahali a Musi: dyma deuluoedd Lefi, yn ôl eu cenedlaethau.
20. Ac Amram a gymerodd Jochebed, ei fodryb chwaer ei dad, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses: a blynyddoedd oes Amram oedd onid tair deugain a chan mlynedd.
21. A meibion Ishar; Cora, a Neffeg, a Sicri.