Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 5:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wedi hynny, Moses ac Aaron a aethant i mewn, ac a ddywedasant wrth Pharo, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y cadwont ŵyl i mi yn yr anialwch.

2. A dywedodd Pharo, Pwy yw yr Arglwydd, fel y gwrandawn i ar ei lais, i ollwng Israel ymaith? Yr Arglwydd nid adwaen, ac Israel ni ollyngaf.

3. A dywedasant hwythau, Duw yr Hebreaid a gyfarfu â ni: gad i ni fyned, atolwg, daith tridiau yn yr anialwch, ac aberthu i'r Arglwydd ein Duw; rhag iddo ein rhuthro â haint, neu â chleddyf.

4. A dywedodd brenin yr Aifft wrthynt, Moses ac Aaron, paham y perwch i'r bobl beidio â'u gwaith? ewch at eich beichiau.

5. Pharo hefyd a ddywedodd, Wele, pobl y wlad yn awr ydynt lawer, a pharasoch iddynt beidio â'u llwythau.

6. A gorchmynnodd Pharo, y dydd hwnnw, i'r rhai oedd feistriaid gwaith ar y bobl, a'u swyddogion, gan ddywedyd,

7. Na roddwch mwyach wellt i'r bobl i wneuthur priddfeini, megis o'r blaen; elont a chasglant wellt iddynt eu hunain.

8. A rhifedi'r priddfeini y rhai yr oeddynt hwy yn ei wneuthur o'r blaen a roddwch arnynt; na leihewch o hynny: canys segur ydynt; am hynny y maent yn gweiddi, gan ddywedyd, Gad i ni fyned ac aberthu i'n Duw.

9. Trymhaer y gwaith ar y gwŷr, a gweithiant ynddo; fel nad edrychant am eiriau ofer.

10. A meistriaid gwaith y bobl, a'u swyddogion, a aethant allan, ac a lefarasant wrth y bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Pharo, Ni roddaf wellt i chwi.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 5