8. Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronneg o waith cywraint, ar waith yr effod; o aur, sidan glas, porffor hefyd, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd.
9. Pedeirongl ydoedd; yn ddau ddyblyg y gwnaethant y ddwyfronneg: o rychwant ei hyd, a rhychwant ei lled, yn ddau ddyblyg.
10. A gosodasant ynddi bedair rhes o feini: rhes o sardius, topas, a smaragdus, ydoedd y rhes gyntaf.
11. A'r ail res oedd, carbuncl, saffir, ac adamant.
12. A'r drydedd res ydoedd, lygur, acat, ac amethyst.
13. A'r bedwaredd res ydoedd, beryl, onics, a iasbis; wedi eu hamgylchu mewn boglynnau aur yn eu lleoedd.
14. A'r meini oedd yn ôl enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ôl eu henwau hwynt; pob un wrth ei enw oeddynt, o naddiadau sêl, yn ôl y deuddeg llwyth.
15. A hwy a wnaethant ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith o aur pur.
16. A gwnaethant ddau foglyn aur, a dwy fodrwy o aur; ac a roddasant y ddwy fodrwy ar ddau gwr y ddwyfronneg.
17. A rhoddasant y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy'r ddwy fodrwy ar gyrrau'r ddwyfronneg.
18. A deupen y ddwy gadwyn blethedig a roddasant ynglŷn yn y ddau foglyn; ac a'u gosodasant ar ysgwyddau yr effod, o'r tu blaen.