Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 39:4-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Ysgwyddau a wnaethant iddi yn cydio: wrth ei dau gwr y cydiwyd hi.

5. A gwregys cywraint ei effod ef, yr hwn oedd arni, ydoedd o'r un, yn unwaith â hi; o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: megis y gorchmynasai'r Arglwydd wrth Moses.

6. A hwy a weithiasant feini onics wedi eu gosod mewn boglynnau aur, wedi eu naddu â naddiadau sêl, ag enwau meibion Israel ynddynt.

7. A gosododd hwynt ar ysgwyddau yr effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

8. Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronneg o waith cywraint, ar waith yr effod; o aur, sidan glas, porffor hefyd, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd.

9. Pedeirongl ydoedd; yn ddau ddyblyg y gwnaethant y ddwyfronneg: o rychwant ei hyd, a rhychwant ei lled, yn ddau ddyblyg.

10. A gosodasant ynddi bedair rhes o feini: rhes o sardius, topas, a smaragdus, ydoedd y rhes gyntaf.

11. A'r ail res oedd, carbuncl, saffir, ac adamant.

12. A'r drydedd res ydoedd, lygur, acat, ac amethyst.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 39