31. A rhoddasant wrthi linyn o sidan glas, i'w dal hi i fyny ar y meitr; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
32. Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod: a meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses; felly y gwnaethant.
33. Dygasant hefyd y tabernacl at Moses, y babell a'i holl ddodrefn, ei bachau, ei hystyllod, ei barrau, a'i cholofnau, a'i morteisiau,
34. A'r to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a'r to o grwyn daearfoch, a'r llen wahan yr hon oedd yn gorchuddio;
35. Arch y dystiolaeth, a'i throsolion, a'r drugareddfa;
36. Y bwrdd hefyd, a'i holl lestri, a'r bara dangos;
37. Y canhwyllbren pur, a'i lampau, a'r lampau i'w gosod mewn trefn, ei holl lestri, ac olew i'r goleuni;
38. A'r allor aur, ac olew yr eneiniad, a'r arogl‐darth llysieuog, a chaeadlen drws y babell;
39. Yr allor bres, a'r alch bres yr hon oedd iddi, ei throsolion, a'i holl lestri; y noe a'i throed;
40. Llenni'r cynteddfa, ei golofnau, a'i forteisiau, a chaeadlen porth y cynteddfa, ei rhaffau, a'i hoelion, a holl ddodrefn gwasanaeth y tabernacl, sef pabell y cyfarfod;
41. Gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef i offeiriadu.
42. Yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel yr holl waith.
43. A Moses a edrychodd ar yr holl waith; ac wele, hwy a'i gwnaethant megis y gorchmynasai yr Arglwydd, felly y gwnaethent: a Moses a'u bendithiodd hwynt.