Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 39:15-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. A hwy a wnaethant ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith o aur pur.

16. A gwnaethant ddau foglyn aur, a dwy fodrwy o aur; ac a roddasant y ddwy fodrwy ar ddau gwr y ddwyfronneg.

17. A rhoddasant y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy'r ddwy fodrwy ar gyrrau'r ddwyfronneg.

18. A deupen y ddwy gadwyn blethedig a roddasant ynglŷn yn y ddau foglyn; ac a'u gosodasant ar ysgwyddau yr effod, o'r tu blaen.

19. Gwnaethant hefyd ddwy fodrwy o aur, ac a'u gosodasant ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod, o'r tu mewn.

20. A hwy a wnaethant ddwy fodrwy aur, ac a'u gosodasant ar ddau ystlys yr effod, oddi tanodd tua'i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr effod.

21. Rhwymasant hefyd y ddwyfronneg, erbyn ei modrwyau, wrth fodrwyau yr effod, â llinyn o sidan glas, i fod oddi ar wregys yr effod, fel na ddatodid y ddwyfronneg oddi wrth yr effod; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

22. Ac efe a wnaeth fantell yr effod i gyd o sidan glas, yn weadwaith.

23. A thwll y fantell oedd yn ei chanol, fel twll llurig, a gwrym o amgylch y twll, rhag ei rhwygo.

24. A gwnaethant ar odre'r fantell bomgranadau, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, a lliain cyfrodedd.

25. Gwnaethant hefyd glych o aur pur, ac a roddasant y clych rhwng y pomgranadau, ar odre'r fantell, o amgylch, ymysg y pomgranadau,

26. Cloch a phomgranad, a chloch a phomgranad, ar odre'r fantell o amgylch, i weini ynddynt: megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

27. A hwy a wnaethant beisiau o liain main, o weadwaith, i Aaron ac i'w feibion.

28. A meitr o liain main, a chapiau hardd o liain main, a llodrau lliain o liain main cyfrodedd,

29. A gwregys o liain main cyfrodedd, ac o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, o waith edau a nodwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

30. Gwnaethant hefyd dalaith y goron sanctaidd o aur pur; ac a ysgrifenasant arni ysgrifen, fel naddiad sêl: SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 39