Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 38:6-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a'u gwisgodd hwynt â phres.

7. Ac efe a dynnodd y trosolion trwy'r modrwyau ar ystlysau yr allor, i'w dwyn hi arnynt: yn gau y gwnaeth efe hi ag ystyllod.

8. Ac efe a wnaeth noe bres, a'i throed o bres, o ddrychau gwragedd, y rhai a ymgasglent yn finteioedd at ddrws pabell y cyfarfod.

9. Ac efe a wnaeth y cynteddfa: ar yr ystlys deau, tua'r deau, llenni'r cynteddfa oedd o liain main cyfrodedd, o gan cufydd:

10. A'u hugain colofn, ac a'u hugain mortais, o bres: a phennau'r colofnau a'u cylchau, o arian yr oeddynt.

11. Ac ar du'r gogledd, y llenni oedd gan cufydd; eu hugain colofn, a'u hugain mortais, o bres: a phennau'r colofnau a'u cylchau o arian.

12. Ac o du'r gorllewin, llenni o ddeg cufydd a deugain: eu deg colofn, a'u deg mortais, a phennau'r colofnau, a'u cylchau, o arian.

13. Ac i du'r dwyrain tua'r dwyrain yr oedd llenni o ddeg cufydd a deugain.

14. Llenni o bymtheg cufydd a wnaeth efe o'r naill du i'r porth; eu tair colofn, a'u tair mortais.

15. Ac efe a wnaeth ar yr ail ystlys, oddeutu drws porth y cynteddfa, lenni o bymtheg cufydd; eu tair colofn, a'u tair mortais.

16. Holl lenni'r cynteddfa o amgylch a wnaeth efe o liain main cyfrodedd.

17. A morteisiau'r colofnau, oedd o bres; pennau'r colofnau, a'u cylchau, o arian; a gwisg eu pennau, o arian; a holl golofnau'r cynteddfa oedd wedi eu cylchu ag arian.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 38