Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 37:13-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur; ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl, y rhai oedd yn ei bedwar troed.

14. Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau, yn lle i'r trosolion i ddwyn y bwrdd.

15. Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur i ddwyn y bwrdd.

16. Efe a wnaeth hefyd y llestri fyddai ar y bwrdd, ei ddysglau ef, a'i lwyau, a'i ffiolau, a'i gaeadau i gau â hwynt, o aur pur.

17. Ac efe a wnaeth ganhwyllbren o aur coeth; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren, ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a'i flodau, oedd o'r un.

18. A chwech o geinciau yn myned allan o'i ystlysau: tair cainc o'r canhwyllbren o un ystlys, a thair cainc o'r canhwyllbren o'r ystlys arall.

19. Tair padell ar waith almonau, cnap a blodeuyn oedd ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gainc arall: yr un modd yr oedd ar y chwe chainc, y rhai oedd yn dyfod allan o'r canhwyllbren.

20. Ac ar y canhwyllbren yr oedd pedair padell o waith almonau, ei gnapiau a'i flodau.

21. A chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono; yn ôl y chwe chainc oedd yn dyfod allan ohono.

22. Eu cnapiau a'u ceinciau oedd o'r un: y cwbl ohono ydoedd un dryll cyfan o aur coeth.

23. Ac efe a wnaeth ei saith lamp ef, a'i efeiliau, a'i gafnau, o aur pur.

24. O dalent o aur coeth y gwnaeth efe ef, a'i holl lestri.

25. Gwnaeth hefyd allor yr arogldarth o goed Sittim: o gufydd ei hyd, a chufydd ei lled, yn bedeirongl: ac o ddau gufydd ei huchder: ei chyrn oedd o'r un.

26. Ac efe a'i gwisgodd hi ag aur coeth, ei chaead, a'i hystlysau o amgylch, a'i chyrn; ac efe a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.

27. Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl, ar ei dau ystlys, oddi tan ei choron, i fyned am drosolion i'w dwyn arnynt.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 37