Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 36:2-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. A Moses a alwodd Besaleel ac Aholïab, a phob gŵr celfydd, y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd iddo; pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesáu at y gwaith i'w weithio ef.

3. A chymerasant gan Moses yr holl offrwm a ddygasai meibion Israel i waith gwasanaeth y cysegr, i'w weithio ef. A hwy a ddygasant ato ef ychwaneg o offrwm gwirfodd bob bore.

4. A'r holl rai celfydd, a'r oedd yn gweithio holl waith y cysegr, a ddaethant bob un oddi wrth ei waith, yr hwn yr oeddynt yn ei wneuthur.

5. A llefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Y mae'r bobl yn dwyn mwy na digon er gwasanaeth i'r gwaith a orchmynnodd yr Arglwydd ei wneuthur.

6. A Moses a roes orchymyn; a hwy a barasant gyhoeddi trwy'r gwersyll, gan ddywedyd, Na wnaed na gŵr na gwraig waith mwy tuag at offrwm y cysegr. Felly yr ataliwyd y bobl rhag dwyn mwy.

7. Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i'r holl waith i'w wneuthur, a gweddill.

8. A'r holl rai celfydd, o'r rhai oedd yn gweithio gwaith y tabernacl, a wnaethant ddeg llen o liain main cyfrodedd, a sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaethant hwynt.

9. Hyd un llen oedd wyth gufydd ar hugain; a lled un llen pedwar cufydd: yr un mesur oedd i'r holl lenni.

10. Ac efe a gydiodd bum llen wrth ei gilydd; ac a gydiodd y pum llen eraill wrth ei gilydd.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 36