Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 35:17-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Llenni'r cynteddfa, ei golofnau, a'i forteisiau, caeadlen porth y cynteddfa,

18. Hoelion y tabernacl, a hoelion y cynteddfa, a'u rhaffau hwynt,

19. A gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt.

20. A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi gerbron Moses.

21. A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef, a phob un yr hwn y gwnaeth ei ysbryd ef yn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i'r Arglwydd, tuag at waith pabell y cyfarfod, a thuag at ei holl wasanaeth hi, a thuag at y gwisgoedd sanctaidd.

22. A daethant yn wŷr ac yn wragedd; pob un a'r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau, a chlustlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur; a phob gŵr a'r a offrymodd offrwm, a offrymodd aur i'r Arglwydd.

23. A phob un a'r y caed gydag ef sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a'u dygasant.

24. Pob un a'r a offrymodd offrwm o arian a phres, a ddygasant offrwm i'r Arglwydd: a phob un a'r y caed gydag ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth a'i dygasant.

25. A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â'i dwylo; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main.

26. A'r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant flew geifr.

27. A'r penaethiaid a ddygasant feini onics, a meini i'w gosod ar yr effod, ac ar y ddwyfronneg;

28. A llysiau, ac olew i'r goleuni, ac i olew yr ennaint, ac i'r arogl‐darth peraidd.

29. Holl blant Israel, yn wŷr ac yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymu tuag at yr holl waith a orchmynasai'r Arglwydd trwy law Moses ei wneuthur, a ddygasant i'r Arglwydd offrwm ewyllysgar.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 35