1. Casglodd Moses hefyd holl gynulleidfa meibion Israel, a dywedodd wrthynt, Dyma'r pethau a orchmynnodd yr Arglwydd eu gwneuthur.
2. Chwe diwrnod y gwneir gwaith; ar y seithfed dydd y bydd i chwi ddydd sanctaidd, Saboth gorffwys i'r Arglwydd: llwyr rodder i farwolaeth pwy bynnag a wnelo waith arno.
3. Na chyneuwch dân yn eich holl anheddau ar y dydd Saboth.
4. A Moses a lefarodd wrth holl gynulleidfa meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma'r peth a orchmynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd,
5. Cymerwch o'ch plith offrwm yr Arglwydd: pob un ewyllysgar ei galon dyged hyn yn offrwm i'r Arglwydd; aur, ac arian, a phres,
6. A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr,
7. A chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,
8. Ac olew i'r goleuni, a llysiau i olew yr ennaint, ac i'r arogl‐darth peraidd,
9. A meini onics, a meini i'w gosod yn yr effod, ac yn y ddwyfronneg.
10. A phob doeth ei galon yn eich plith, deuant a gweithiant yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd;
11. Y tabernacl, ei babell‐len a'i do, ei fachau a'i ystyllod, ei farrau, ei golofnau, a'i forteisiau,
12. Yr arch, a'i throsolion, y drugareddfa, a'r wahanlen, yr hon a'i gorchuddia,
13. Y bwrdd, a'i drosolion, a'i holl lestri, a'r bara dangos,
14. A chanhwyllbren y goleuni, a'i offer, a'i lampau, ac olew y goleuni,
15. Ac allor yr arogl‐darth, a'i throsolion, ac olew yr eneiniad, a'r arogl‐darth peraidd, a chaeadlen y drws i fyned i'r tabernacl,
16. Allor y poethoffrwm a'i halch bres, ei throsolion, a'i holl lestri, y noe a'i throed,
17. Llenni'r cynteddfa, ei golofnau, a'i forteisiau, caeadlen porth y cynteddfa,
18. Hoelion y tabernacl, a hoelion y cynteddfa, a'u rhaffau hwynt,