Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 34:9-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Ac a ddywedodd, Os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, O Arglwydd, eled fy Arglwydd, atolwg, yn ein plith ni, (canys pobl wargaled yw,) a maddau ein hanwiredd, a'n pechod, a chymer ni yn etifeddiaeth i ti.

10. Yntau a ddywedodd, Wele fi yn gwneuthur cyfamod yng ngŵydd dy holl bobl: gwnaf ryfeddodau, y rhai ni wnaed yn yr holl ddaear, nac yn yr holl genhedloedd; a'r holl bobl yr wyt ti yn eu mysg a gânt weled gwaith yr Arglwydd: canys ofnadwy yw yr hyn a wnaf â thi.

11. Cadw yr hyn a orchmynnais i ti heddiw: wele, mi a yrraf allan o'th flaen di yr Amoriad, a'r Canaanead, a'r Hethiad, a'r Pheresiad, yr Hefiad hefyd, a'r Jebusiad.

12. A chadw arnat, rhag gwneuthur cyfamod â phreswylwyr y wlad yr wyt yn myned iddi; rhag eu bod yn fagl yn dy blith.

13. Eithr dinistriwch eu hallorau hwynt, drylliwch eu delwau hwynt, a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt.

14. Canys ni chei ymgrymu i dduw arall: oblegid yr Arglwydd, Eiddigus yw ei enw; Duw eiddigus yw efe;

15. Rhag i ti wneuthur cyfamod â phreswylwyr y tir; ac iddynt buteinio ar ôl eu duwiau, ac aberthu i'w duwiau, a'th alw di, ac i tithau fwyta o'u haberth;

16. A chymryd ohonot o'u merched i'th feibion; a phuteinio o'u merched ar ôl eu duwiau hwynt, a gwneuthur i'th feibion di buteinio ar ôl eu duwiau hwynt.

17. Na wna i ti dduwiau tawdd.

18. Cadw ŵyl y bara croyw: saith niwrnod y bwytei fara croyw, fel y gorchmynnais i ti, ar yr amser ym mis Abib: oblegid ym mis Abib y daethost allan o'r Aifft.

19. Eiddof fi yw pob peth a agoro y groth; a phob gwryw cyntaf o'th anifeiliaid, yn eidionau, ac yn ddefaid.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 34