13. Eithr dinistriwch eu hallorau hwynt, drylliwch eu delwau hwynt, a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt.
14. Canys ni chei ymgrymu i dduw arall: oblegid yr Arglwydd, Eiddigus yw ei enw; Duw eiddigus yw efe;
15. Rhag i ti wneuthur cyfamod â phreswylwyr y tir; ac iddynt buteinio ar ôl eu duwiau, ac aberthu i'w duwiau, a'th alw di, ac i tithau fwyta o'u haberth;
16. A chymryd ohonot o'u merched i'th feibion; a phuteinio o'u merched ar ôl eu duwiau hwynt, a gwneuthur i'th feibion di buteinio ar ôl eu duwiau hwynt.
17. Na wna i ti dduwiau tawdd.
18. Cadw ŵyl y bara croyw: saith niwrnod y bwytei fara croyw, fel y gorchmynnais i ti, ar yr amser ym mis Abib: oblegid ym mis Abib y daethost allan o'r Aifft.
19. Eiddof fi yw pob peth a agoro y groth; a phob gwryw cyntaf o'th anifeiliaid, yn eidionau, ac yn ddefaid.
20. Ond y cyntaf i asyn a bryni di ag oen; ac oni phryni, tor ei wddf: prŷn hefyd bob cyntaf‐anedig o'th feibion: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw.
21. Chwe diwrnod y gweithi; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi: yn amser aredig, ac yn y cynhaeaf, y gorffwysi.
22. Cadw i ti hefyd ŵyl yr wythnosau, o flaenffrwyth y cynhaeaf gwenith; a gŵyl y cynnull, ar ddiwedd y flwyddyn.
23. Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr Arglwydd Dduw, Duw Israel.
24. Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o'th flaen di, ac a helaethaf dy derfynau di: ac ni chwennych neb dy dir di, pan elych i fyny i ymddangos gerbron yr Arglwydd dy Dduw, dair gwaith yn y flwyddyn.
25. Nac offryma waed fy aberth gyda bara lefeinllyd; ac nac arhoed aberth gŵyl y Pasg dros nos hyd y bore.