27. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Gosodwch bob un ei gleddyf ar ei glun, ac ewch, cyniweiriwch o borth i borth trwy'r gwersyll, a lleddwch bob un ei frawd, a phob un ei gyfaill, a phob un ei gymydog.
28. A meibion Lefi a wnaethant yn ôl gair Moses: a chwympodd o'r bobl y dydd hwnnw ynghylch tair mil o wŷr.
29. Canys dywedasai Moses, Cysegrwch eich llaw heddiw i'r Arglwydd, bob un ar ei fab, ac ar ei frawd; fel y rhodder heddiw i chwi fendith.
30. A thrannoeth y dywedodd Moses wrth y bobl, Chwi a bechasoch bechod mawr: ac yn awr mi a af i fyny at yr Arglwydd; ond odid mi a wnaf gymod dros eich pechod chwi.
31. A Moses a ddychwelodd at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Och! pechodd y bobl hyn bechod mawr, ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur.
32. Ac yn awr, os maddeui eu pechod; ac os amgen, dilea fi, atolwg, allan o'th lyfr a ysgrifennaist.
33. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pwy bynnag a bechodd i'm herbyn, hwnnw a ddileaf allan o'm llyfr.
34. Am hynny dos yn awr, arwain y bobl i'r lle a ddywedais wrthyt: wele, fy angel a â o'th flaen di: a'r dydd yr ymwelwyf, yr ymwelaf â hwynt am eu pechod.
35. A'r Arglwydd a drawodd y bobl, am iddynt wneuthur y llo a wnaethai Aaron.