Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 32:19-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. A bu, wedi dyfod ohono yn agos i'r gwersyll, iddo weled y llo a'r dawnsiau: ac enynnodd digofaint Moses: ac efe a daflodd y llechau o'i ddwylo ac a'u torrodd hwynt islaw y mynydd.

20. Ac efe a gymerodd y llo a wnaethent hwy, ac a'i llosgodd â thân, ac a'i malodd yn llwch, ac a'i taenodd ar wyneb y dwfr, ac a'i rhoddes i'w yfed i feibion Israel.

21. A dywedodd Moses wrth Aaron, Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, pan ddygaist arnynt bechod mor fawr?

22. A dywedodd Aaron, Nac enynned digofaint fy arglwydd: ti a adwaenost y bobl, mai ar ddrwg y maent.

23. Canys dywedasant wrthyf, Gwna i ni dduwiau i fyned o'n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a'n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono.

24. A dywedais wrthynt, I'r neb y mae aur, tynnwch ef: a hwy a'i rhoddasant i mi: a mi a'i bwriais yn tân, a daeth y llo hwn allan.

25. A phan welodd Moses fod y bobl yn noeth, (canys Aaron a'u noethasai hwynt, i'w gwaradwyddo ymysg eu gelynion;)

26. Yna y safodd Moses ym mhorth y gwersyll, ac a ddywedodd, Pwy sydd ar du'r Arglwydd? deued ataf fi. A holl feibion Lefi a ymgasglasant ato ef.

27. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Gosodwch bob un ei gleddyf ar ei glun, ac ewch, cyniweiriwch o borth i borth trwy'r gwersyll, a lleddwch bob un ei frawd, a phob un ei gyfaill, a phob un ei gymydog.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 32