8. A'r bwrdd a'i lestri, a'r canhwyllbren pur a'i holl lestri, ac allor yr arogl‐darth,
9. Ac allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed,
10. A gwisgoedd y weinidogaeth, a'r gwisgoedd sanctaidd i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt,
11. Ac olew yr eneiniad, a'r arogl‐darth peraidd i'r cysegr; a wnânt yn ôl yr hyn oll a orchmynnais wrthyt.
12. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd,
13. Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Diau y cedwch fy Sabothau: canys arwydd yw rhyngof fi a chwithau, trwy eich cenedlaethau; i wybod mai myfi yw yr Arglwydd, sydd yn eich sancteiddio.
14. Am hynny cedwch y Saboth; oblegid sanctaidd yw i chwi: llwyr rodder i farwolaeth yr hwn a'i halogo ef; oherwydd pwy bynnag a wnelo waith arno, torrir ymaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl.
15. Chwe diwrnod y gwneir gwaith, ac ar y seithfed dydd y mae Saboth gorffwystra sanctaidd i'r Arglwydd: pwy bynnag a wnelo waith y seithfed dydd, llwyr rodder ef i farwolaeth.
16. Am hynny cadwed meibion Israel y Saboth, gan gynnal Saboth trwy eu cenedlaethau, yn gyfamod tragwyddol.
17. Rhyngof fi a meibion Israel, y mae yn arwydd tragwyddol, mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a'r ddaear; ac mai ar y seithfed dydd y peidiodd, ac y gorffwysodd efe.
18. Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orffen llefaru wrtho ym mynydd Sinai, ddwy lech y dystiolaeth; sef llechau o gerrig, wedi eu hysgrifennu â bys Duw.