Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 31:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Gwêl, mi a elwais wrth ei enw ar Besaleel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda;

3. Ac a'i llenwais ef ag ysbryd Duw, mewn doethineb, ac mewn deall, ac mewn gwybodaeth hefyd, ac ym mhob rhyw waith,

4. I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres,

5. Ac mewn cyfarwyddyd, i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith.

6. Ac wele, mi a roddais gydag ef Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan: ac yng nghalon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yr hyn oll a orchmynnais wrthyt.

7. Pabell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth, a'r drugareddfa yr hon sydd arni, a holl lestri y babell,

8. A'r bwrdd a'i lestri, a'r canhwyllbren pur a'i holl lestri, ac allor yr arogl‐darth,

9. Ac allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed,

10. A gwisgoedd y weinidogaeth, a'r gwisgoedd sanctaidd i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt,

11. Ac olew yr eneiniad, a'r arogl‐darth peraidd i'r cysegr; a wnânt yn ôl yr hyn oll a orchmynnais wrthyt.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 31