Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 30:3-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A gwisg hi ag aur coeth, ei chefn a'i hystlysau o amgylch, a'i chyrn: a gwna hefyd iddi goron o aur o amgylch.

4. A gwna iddi ddwy fodrwy aur oddi tan ei choron, wrth ei dwy gongl: ar ei dau ystlys y gwnei hwynt; fel y byddant i wisgo am drosolion, i'w dwyn hi arnynt.

5. A'r trosolion a wnei di o goed Sittim: a gwisg hwynt ag aur.

6. A gosod hi o flaen y wahanlen sydd wrth arch y dystiolaeth; o flaen y drugareddfa sydd ar y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â thi.

7. Ac arogldarthed Aaron arni arogldarth llysieuog bob bore: pan daclo efe y lampau, yr arogldartha efe.

8. A phan oleuo Aaron y lampau yn y cyfnos, arogldarthed arni arogl‐darth gwastadol gerbron yr Arglwydd, trwy eich cenedlaethau.

9. Nac offrymwch arni arogl‐darth dieithr, na phoethoffrwm, na bwyd‐offrwm; ac na thywelltwch ddiod‐offrwm arni.

10. A gwnaed Aaron gymod ar ei chyrn hi unwaith yn y flwyddyn, â gwaed pech-aberth y cymod: unwaith yn y flwyddyn y gwna efe gymod arni trwy eich cenedlaethau: sancteiddiolaf i'r Arglwydd yw hi.

11. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

12. Pan rifech feibion Israel, dan eu rhifedi; yna rhoddant bob un iawn am ei einioes i'r Arglwydd, pan rifer hwynt: fel na byddo pla yn eu plith, pan rifer hwynt.

13. Hyn a ddyry pob un a elo dan rif. Hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr: ugain gera yw y sicl: hanner sicl fydd yn offrwm i'r Arglwydd.

14. Pob un a elo dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod, a rydd offrwm i'r Arglwydd.

15. Ni rydd y cyfoethog fwy, ac ni rydd y tlawd lai, na hanner sicl, wrth roddi offrwm i'r Arglwydd, i wneuthur cymod dros eich eneidiau.

16. A chymer yr arian cymod gan feibion Israel, a dod hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod; fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel gerbron yr Arglwydd, i wneuthur cymod dros eich eneidiau.

17. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 30