Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 3:12-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Dywedodd yntau, Diau y byddaf gyda thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a'th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o'r Aifft, chwi a wasanaethwch Dduw ar y mynydd hwn.

13. A dywedodd Moses wrth Dduw, Wele, pan ddelwyf fi at feibion Israel, a dywedyd wrthynt, Duw eich tadau a'm hanfonodd atoch; os dywedant wrthyf, Beth yw ei enw ef? beth a ddywedaf fi wrthynt?

14. A Duw a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel; YDWYF a'm hanfonodd atoch.

15. A Duw a ddywedodd drachefn wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob, a'm hanfonodd atoch: dyma fy enw byth, a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.

16. Dos a chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abraham, Isaac, a Jacob, a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd, Gan ymweled yr ymwelais â chwi, a gwelais yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft.

17. A dywedais, Mi a'ch dygaf chwi i fyny o adfyd yr Aifft, i wlad y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl.

18. A hwy a wrandawant ar dy lais; a thi a ddeui, ti a henuriaid Israel, at frenin yr Aifft, a dywedwch wrtho, Arglwydd Dduw yr Hebreaid a gyfarfu â ni; ac yn awr gad i ni fyned, atolwg, daith tri diwrnod i'r anialwch, fel yr aberthom i'r Arglwydd ein Duw.

19. A mi a wn na edy brenin yr Aifft i chwi fyned, ond mewn llaw gadarn.

20. Am hynny mi a estynnaf fy llaw, ac a drawaf yr Aifft â'm holl ryfeddodau, y rhai a wnaf yn ei chanol; ac wedi hynny efe a'ch gollwng chwi ymaith.

21. A rhoddaf hawddgarwch i'r bobl hyn yng ngolwg yr Eifftiaid: a bydd, pan eloch, nad eloch yn waglaw;

22. Ond pob gwraig a fenthycia gan ei chymdoges, a chan yr hon fyddo yn cytal â hi, ddodrefn arian, a dodrefn aur, a gwisgoedd: a chwi a'u gosodwch hwynt am eich meibion ac am eich merched; ac a ysbeiliwch yr Eifftiaid.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 3