35. A gwna fel hyn i Aaron, ac i'w feibion, yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti: saith niwrnod y cysegri hwynt.
36. A phob dydd yr aberthi fustach yn aberth dros bechod, er cymod: a glanha yr allor, wedi i ti wneuthur cymod drosti, ac eneinia hi, i'w chysegru.
37. Saith niwrnod y gwnei gymod dros yr allor, ac y sancteiddi hi: felly yr allor fydd sanctaidd: pob peth a gyffyrddo â'r allor, a sancteiddir.
38. A dyma yr hyn a offrymi ar yr allor. Dau oen blwyddiaid, bob dydd yn wastadol.
39. Yr oen cyntaf a offrymi di y bore; a'r ail oen a offrymi di yn y cyfnos.
40. A chyda'r naill oen ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu â phedwaredd ran hin o olew coethedig: a phedwaredd ran hin o win, yn ddiod‐offrwm.
41. A'r oen arall a offrymi di yn y cyfnos, ac a wnei iddo yr un modd ag i fwyd‐offrwm y bore, ac i'w ddiod‐offrwm, i fod yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd:
42. Yn boethoffrwm gwastadol trwy eich oesoedd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd; lle y cyfarfyddaf â chwi, i lefaru wrthyt yno.
43. Ac yn y lle hwnnw y cyfarfyddaf â meibion Israel; ac efe a sancteiddir trwy fy ngogoniant.
44. A mi a sancteiddiaf babell y cyfarfod a'r allor; ac Aaron a'i feibion a sancteiddiaf, i offeiriadu i mi.