Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 29:25-42 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. A chymer hwynt o'u dwylo, a llosg ar yr allor yn boethoffrwm, yn arogl peraidd gerbron yr Arglwydd: aberth tanllyd i'r Arglwydd yw.

26. Cymer hefyd barwyden hwrdd y cysegriad yr hwn fyddo dros Aaron, a chyhwfana hi yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd; a'th ran di fydd.

27. A sancteiddia barwyden yr offrwm cyhwfan, ac ysgwyddog yr offrwm dyrchafael, yr hon a gyhwfanwyd, a'r hon a ddyrchafwyd, o hwrdd y cysegriad, o'r hwn a fyddo dros Aaron, ac o'r hwn a fyddo dros ei feibion.

28. Ac eiddo Aaron a'i feibion fydd trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel: canys offrwm dyrchafael yw; ac offrwm dyrchafael a fydd oddi wrth feibion Israel o'u haberthau hedd, sef eu hoffrwm dyrchafael i'r Arglwydd.

29. A dillad sanctaidd Aaron a fyddant i'w feibion ar ei ôl ef, i'w heneinio ynddynt, ac i'w cysegru ynddynt.

30. Yr hwn o'i feibion ef a fyddo offeiriad yn ei le ef, a'u gwisg hwynt saith niwrnod, pan ddelo i babell y cyfarfod i weini yn y cysegr.

31. A chymer hwrdd y cysegriad, a berwa ei gig yn y lle sanctaidd.

32. A bwytaed Aaron a'i feibion gig yr hwrdd, a'r bara yr hwn fydd yn y cawell, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

33. A hwy a fwytânt y pethau hyn y gwnaed y cymod â hwynt, i'w cysegru hwynt ac i'w sancteiddio: ond y dieithr ni chaiff eu bwyta; canys cysegredig ydynt.

34. Ac os gweddillir o gig y cysegriad, neu o'r bara, hyd y bore; yna ti a losgi'r gweddill â thân: ni cheir ei fwyta, oblegid cysegredig yw.

35. A gwna fel hyn i Aaron, ac i'w feibion, yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti: saith niwrnod y cysegri hwynt.

36. A phob dydd yr aberthi fustach yn aberth dros bechod, er cymod: a glanha yr allor, wedi i ti wneuthur cymod drosti, ac eneinia hi, i'w chysegru.

37. Saith niwrnod y gwnei gymod dros yr allor, ac y sancteiddi hi: felly yr allor fydd sanctaidd: pob peth a gyffyrddo â'r allor, a sancteiddir.

38. A dyma yr hyn a offrymi ar yr allor. Dau oen blwyddiaid, bob dydd yn wastadol.

39. Yr oen cyntaf a offrymi di y bore; a'r ail oen a offrymi di yn y cyfnos.

40. A chyda'r naill oen ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu â phedwaredd ran hin o olew coethedig: a phedwaredd ran hin o win, yn ddiod‐offrwm.

41. A'r oen arall a offrymi di yn y cyfnos, ac a wnei iddo yr un modd ag i fwyd‐offrwm y bore, ac i'w ddiod‐offrwm, i fod yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd:

42. Yn boethoffrwm gwastadol trwy eich oesoedd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd; lle y cyfarfyddaf â chwi, i lefaru wrthyt yno.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 29