19. A chymer yr ail hwrdd; a rhodded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd.
20. Yna lladd yr hwrdd, a chymer o'i waed, a dod ar gwr isaf clust ddeau Aaron, ac ar gwr isaf clust ddeau ei feibion, ac ar fawd eu llaw ddeau hwynt, ac ar fawd eu troed deau hwynt; a thaenella'r gwaed arall ar yr allor o amgylch.
21. A chymer o'r gwaed a fyddo ar yr allor, ac o olew yr eneiniad, a thaenella ar Aaron, ac ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion gydag ef: felly sanctaidd fydd efe a'i wisgoedd, ei feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion gydag ef.
22. Cymer hefyd o'r hwrdd, y gwêr a'r gloren, a'r gwêr sydd yn gorchuddio'r perfedd, a rhwyden yr afu, a'r ddwy aren, a'r gwêr sydd arnynt, a'r ysgwyddog ddeau; canys hwrdd cysegriad yw:
23. Ac un dorth o fara, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen o gawell y bara croyw, yr hwn sydd gerbron yr Arglwydd.
24. A dod y cwbl yn nwylo Aaron, ac yn nwylo ei feibion: a chyhwfana hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.
25. A chymer hwynt o'u dwylo, a llosg ar yr allor yn boethoffrwm, yn arogl peraidd gerbron yr Arglwydd: aberth tanllyd i'r Arglwydd yw.
26. Cymer hefyd barwyden hwrdd y cysegriad yr hwn fyddo dros Aaron, a chyhwfana hi yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd; a'th ran di fydd.
27. A sancteiddia barwyden yr offrwm cyhwfan, ac ysgwyddog yr offrwm dyrchafael, yr hon a gyhwfanwyd, a'r hon a ddyrchafwyd, o hwrdd y cysegriad, o'r hwn a fyddo dros Aaron, ac o'r hwn a fyddo dros ei feibion.
28. Ac eiddo Aaron a'i feibion fydd trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel: canys offrwm dyrchafael yw; ac offrwm dyrchafael a fydd oddi wrth feibion Israel o'u haberthau hedd, sef eu hoffrwm dyrchafael i'r Arglwydd.