9. Cymer hefyd ddau faen onics, a nadd ynddynt enwau meibion Israel:
10. Chwech o'u henwau ar un maen, a'r chwech enw arall ar yr ail faen, yn ôl eu genedigaeth.
11. A gwaith naddwr mewn maen, fel naddiadau sêl, y neddi di y ddau faen, ag enwau meibion Israel: gwna hwynt â boglynnau o aur o'u hamgylch.
12. A gosod y ddau faen ar ysgwyddau yr effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel. Ac Aaron a ddwg eu henwau hwynt gerbron yr Arglwydd ar ei ddwy ysgwydd, yn goffadwriaeth.
13. Gwna hefyd foglynnau aur;
14. A dwy gadwyn o aur coeth yn eu pennau: o blethwaith y gwnei hwynt; a dod y cadwynau plethedig ynglŷn wrth y boglynnau.
15. Gwna hefyd ddwyfronneg barnedigaeth, o waith cywraint; ar waith yr effod y gwnei hi: o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, y gwnei hi.
16. Pedeirongl fydd hi yn ddau ddyblyg; yn rhychwant ei hyd, ac yn rhychwant ei lled.
17. Llanw hi yn llawn o feini, sef pedair rhes o feini: un rhes fydd sardius, a thopas, a smaragdus: hyn fydd y rhes gyntaf.
18. A'r ail res fydd carbuncl, saffir, ac adamant.
19. A'r drydedd res fydd lygur, ac acat, ac amethyst.
20. Y bedwaredd res fydd beryl, ac onics, a iasbis: byddant wedi eu gosod mewn aur yn eu lleoedd.
21. A'r meini fyddant ag enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ôl eu henwau hwynt; o naddiad sêl, bob un wrth ei enw y byddant, yn ôl y deuddeg llwyth.
22. A gwna ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith, o aur coeth.
23. Gwna hefyd ar y ddwyfronneg ddwy fodrwy o aur, a dod y ddwy fodrwy wrth ddau gwr y ddwyfronneg.
24. A dod y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy'r ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronneg.
25. A'r ddau ben arall i'r ddwy gadwyn blethedig dod ynglŷn wrth y ddau foglyn, a dod ar ysgwyddau yr effod o'r tu blaen.