Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 28:34-43 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

34. Cloch aur a phomgranad, a chloch aur a phomgranad, ar odre'r fantell o amgylch.

35. A hi a fydd am Aaron wrth weini: a cheir clywed ei sŵn ef pan ddelo i'r cysegr, gerbron yr Arglwydd, a phan elo allan; fel na byddo farw.

36. Gwna hefyd ddalen o aur coeth; a nadd arni, fel naddiadau sêl, SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD.

37. A gosod hi wrth linyn o sidan glas, a bydded ar y meitr: o'r tu blaen i'r meitr y bydd.

38. A hi a fydd ar dalcen Aaron, fel y dygo Aaron anwiredd y pethau sanctaidd a gysegro meibion Israel yn eu holl roddion sanctaidd: ac yn wastad y bydd ar ei dalcen ef, fel y byddo iddynt ffafr gerbron yr Arglwydd.

39. Gweithia ag edau a nodwydd y bais o liain main; a gwna feitr o liain main; a'r gwregys a wnei o wniadwaith.

40. I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau, a gwna iddynt wregysau; gwna hefyd iddynt gapiau, er gogoniant a harddwch.

41. A gwisg hwynt am Aaron dy frawd, a'i feibion gydag ef: ac eneinia hwynt, cysegra hwynt hefyd, a sancteiddia hwynt, i offeiriadu i mi.

42. Gwna hefyd iddynt lodrau lliain i guddio eu cnawd noeth: o'r lwynau hyd y morddwydydd y byddant.

43. A byddant am Aaron, ac am ei feibion, pan ddelont i mewn i babell y cyfarfod, neu pan ddelont yn agos at yr allor i weini yn y cysegr: fel na ddygont anwiredd, a marw. Hyn fydd deddf dragwyddol iddo ef, ac i'w had ar ei ôl.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 28