Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 27:15-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Ac i'r ail du y bydd pymtheg llen; eu tair colofn, a'u tair mortais.

16. Ac i borth y cynteddfa y gwneir caeadlen o ugain cufydd, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wniadwaith; eu pedair colofn, a'u pedair mortais.

17. Holl golofnau'r cynteddfa o amgylch a gylchir ag arian; a'u pennau yn arian, a'u morteisiau yn bres.

18. Hyd y cynteddfa fydd gan cufydd, a'i led yn ddeg a deugain o bob tu; a phum cufydd o uchder o liain main cyfrodedd, a'u morteisiau o bres.

19. Holl lestri'r tabernacl yn eu holl wasanaeth, a'i holl hoelion hefyd, a holl hoelion y cynteddfa, fyddant o bres.

20. A gorchymyn dithau i feibion Israel ddwyn ohonynt atat bur olew yr olewydden coethedig, yn oleuni, i beri i'r lamp losgi yn wastad.

21. Ym mhabell y cyfarfod, o'r tu allan i'r wahanlen, yr hon fydd o flaen y dystiolaeth, y trefna Aaron a'i feibion hwnnw, o'r hwyr hyd y bore, gerbron yr Arglwydd: deddf dragwyddol fydd, trwy eu hoesoedd, gan feibion Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 27