1. Gwna hefyd allor o goed Sittim, o bum cufydd o hyd, a phum cufydd o led: yn bedeirongl y bydd yr allor, a'i huchder o dri chufydd.
2. A gwna ei chyrn ar ei phedair congl: o'r un y bydd ei chyrn: a gwisg hi â phres.
3. Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw, a'i rhawiau, a'i chawgiau, a'i chigweiniau, a'i phedyll tân: ei holl lestri a wnei o bres.
4. A gwna iddi alch o bres, ar waith rhwyd; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o bres ar ei phedair congl.
5. A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd, fel y byddo'r rhwyd hyd hanner yr allor.
6. A gwna drosolion i'r allor, sef trosolion o goed Sittim; a gwisg hwynt â phres.
7. A dod ei throsolion trwy'r modrwyau; a bydded y trosolion ar ddau ystlys yr allor, i'w dwyn hi.
8. Gwna hi ag ystyllod yn gau: fel y dangoswyd i ti yn y mynydd, felly y gwnânt hi.
9. A gwna gynteddfa'r tabernacl ar y tu deau, tua'r deau: llenni'r cynteddfa a fyddant liain main cyfrodedd, o gan cufydd o hyd, i un ystlys.
10. A'i hugain colofn, a'u hugain mortais, fydd o bres: pennau y colofnau, a'u cylchau, fydd o arian.
11. Felly o du'r gogledd ar hyd, y bydd llenni o gan cufydd o hyd, a'u hugain colofn, a'u hugain mortais, o bres; a phennau'r colofnau, a'u cylchau, o arian.
12. Ac i led y cynteddfa, o du'r gorllewin, y bydd llenni o ddeg cufydd a deugain: eu colofnau fyddant ddeg, a'u morteisiau yn ddeg.
13. A lled y cynteddfa, tua'r dwyrain, o godiad haul, a fydd ddeg cufydd a deugain.