28. A'r bar canol yng nghanol yr ystyllod, a gyrraedd o gwr i gwr.
29. Gosod hefyd aur dros yr ystyllod, a gwna eu modrwyau o aur, i osod y barrau trwyddynt: gwisg y barrau hefyd ag aur.
30. A chyfod y tabernacl wrth ei bortreiad, yr hwn a ddangoswyd i ti yn y mynydd.
31. A gwna wahanlen o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnei hi.
32. A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur; a'u pennau o aur, ar bedair mortais arian.
33. A dod y wahanlen wrth y bachau, fel y gellych ddwyn yno, o fewn y wahanlen, arch y dystiolaeth: a'r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng y cysegr a'r cysegr sancteiddiolaf.
34. Dod hefyd y drugareddfa ac arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiolaf.
35. A gosod y bwrdd o'r tu allan i'r wahanlen, a'r canhwyllbren gyferbyn â'r bwrdd ar y tu deau i'r tabernacl: a dod y bwrdd ar du'r gogledd.
36. A gwna gaeadlen i ddrws y babell o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wnïadwaith.
37. A gwna i'r gaeadlen bum colofn o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur; a'u pennau fydd o aur: a bwrw iddynt bum mortais bres.