18. A gwna ystyllod i'r tabernacl, ugain ystyllen o'r tu deau tua'r deau.
19. A gwna ddeugain mortais arian dan yr ugain ystyllen; dwy fortais dan un ystyllen i'w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i'w dau dyno.
20. A gwna i ail ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, ugain ystyllen,
21. A deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.
22. Hefyd i ystlys y tabernacl, o du'r gorllewin, y gwnei chwech ystyllen.
23. A dwy ystyllen a wnei i gonglau'r tabernacl, yn y ddau ystlys.
24. A byddant wedi eu cysylltu oddi tanodd; byddant hefyd wedi eu cydgydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau; i'r ddwy gongl y byddant.
25. A byddant yn wyth ystyllen, a'u morteisiau arian yn un fortais ar bymtheg; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.
26. Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i ystyllod un ystlys i'r tabernacl,
27. A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phum bar i ystyllod ystlys y tabernacl i'r ddau ystlys tua'r gorllewin.
28. A'r bar canol yng nghanol yr ystyllod, a gyrraedd o gwr i gwr.
29. Gosod hefyd aur dros yr ystyllod, a gwna eu modrwyau o aur, i osod y barrau trwyddynt: gwisg y barrau hefyd ag aur.
30. A chyfod y tabernacl wrth ei bortreiad, yr hwn a ddangoswyd i ti yn y mynydd.
31. A gwna wahanlen o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnei hi.
32. A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur; a'u pennau o aur, ar bedair mortais arian.
33. A dod y wahanlen wrth y bachau, fel y gellych ddwyn yno, o fewn y wahanlen, arch y dystiolaeth: a'r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng y cysegr a'r cysegr sancteiddiolaf.
34. Dod hefyd y drugareddfa ac arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiolaf.