Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 25:23-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. A gwna di fwrdd o goed Sittim, o ddau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.

24. A gosod aur coeth drosto, a gwna iddo goron o aur o amgylch.

25. A gwna iddo wregys o led llaw o amgylch, a gwna goron aur ar ei wregys o amgylch.

26. A gwna iddo bedair modrwy o aur, a dod y modrwyau wrth y pedair congl y rhai a fyddant ar ei bedwar troed.

27. Ar gyfer cylch y bydd y modrwyau, yn lleoedd i'r trosolion i ddwyn y bwrdd.

28. A gwna y trosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur, fel y dyger y bwrdd arnynt.

29. A gwna ei ddysglau ef, a'i lwyau, a'i gaeadau, a'i ffiolau, y rhai y tywelltir â hwynt: o aur coeth y gwnei hwynt.

30. A dod ar y bwrdd y bara dangos gerbron fy wyneb yn wastadol.

31. Gwna hefyd ganhwyllbren: o aur pur yn gyfanwaith y gwneir y canhwyllbren; ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a'i flodau, a fyddant o'r un.

32. A bydd chwe chainc yn dyfod allan o'i ystlysau; tair cainc o'r canhwyllbren o un tu, a thair cainc o'r canhwyllbren o'r tu arall.

33. Tair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gainc arall: felly ar y chwe chainc a fyddo yn dyfod allan o'r canhwyllbren.

34. Ac yn y canhwyllbren y bydd pedair padell ar waith almonau, a'u cnapiau a'u blodau.

35. A bydd cnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, yn ôl y chwe chainc a ddeuant o'r canhwyllbren.

36. Eu cnapiau a'u ceinciau a fyddant o'r un: y cwbl fydd aur coeth o un cyfanwaith morthwyl.

37. A thi a wnei ei saith lusern ef, ac a oleui ei lusernau ef, fel y goleuo efe ar gyfer ei wyneb.

38. A bydded ei efeiliau a'i gafnau o aur coeth.

39. O dalent o aur coeth y gwnei ef, a'r holl lestri hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 25