2. Dywed wrth feibion Israel, am ddwyn ohonynt i mi offrwm: gan bob gŵr ewyllysgar ei galon y cymerwch fy offrwm.
3. A dyma yr offrwm a gymerwch ganddynt; aur, ac arian, a phres,
4. A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr,
5. A chrwyn hyrddod yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,
6. Olew i'r goleuni, llysieuau i olew yr ennaint, ac i'r perarogl‐darth,
7. Meini onics, a meini i'w gosod yn yr effod, ac yn y ddwyfronneg.
8. A gwnânt i mi gysegr; fel y gallwyf drigo yn eu mysg hwynt.
9. Yn ôl holl waith y tabernacl, a gwaith ei holl ddodrefn y rhai yr ydwyf yn eu dangos i ti, felly y gwnewch.
10. A gwnânt arch o goed Sittim, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.
11. A gwisg hi ag aur coeth; o fewn ac oddi allan y gwisgi hi: a gwna arni goron o aur o amgylch.
12. Bwrw iddi hefyd bedair modrwy aur, a dod ar ei phedair congl; dwy fodrwy ar un ystlys iddi, a dwy fodrwy ar yr ystlys arall iddi.
13. A gwna drosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur.
14. A gosod y trosolion trwy'r modrwyau gan ystlys yr arch, i ddwyn yr arch arnynt.
15. Ym modrwyau yr arch y bydd y trosolion; na symuder hwynt oddi wrthi.
16. A dod yn yr arch y dystiolaeth a roddaf i ti.
17. A gwna drugareddfa o aur coeth, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled.