7. Ac efe a gymerth lyfr y cyfamod, ac a'i darllenodd lle y clywai'r bobl. A dywedasant, Ni a wnawn, ac a wrandawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd.
8. A chymerodd Moses y gwaed, ac a'i taenellodd ar y bobl; ac a ddywedodd, Wele waed y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi, yn ôl yr holl eiriau hyn.
9. Yna yr aeth Moses i fyny, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thrigain o henuriaid Israel.
10. A gwelsant Dduw Israel; a than ei draed megis gwaith o faen saffir, ac fel corff y nefoedd o ddisgleirder.
11. Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond gwelsant Dduw, a bwytasant ac yfasant.
12. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Tyred i fyny ataf i'r mynydd, a bydd yno: a mi a roddaf i ti lechau cerrig, a chyfraith, a gorchmynion, y rhai a ysgrifennais, i'w dysgu hwynt.
13. A chododd Moses, a Josua ei weinidog; ac aeth Moses i fyny i fynydd Duw.
14. Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, Arhoswch ni yma, hyd oni ddelom ni atoch drachefn: ac wele, Aaron a Hur gyda chwi; pwy bynnag a fyddo ag achos iddo, deued atynt hwy.
15. A Moses a aeth i fyny i'r mynydd; a chwmwl a orchuddiodd y mynydd.
16. A gogoniant yr Arglwydd a arhodd ar fynydd Sinai, a'r cwmwl a'i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmwl.
17. A'r golwg ar ogoniant yr Arglwydd oedd fel tân yn difa ar ben y mynydd, yng ngolwg meibion Israel.