Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 23:12-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Chwe diwrnod y gwnei dy waith; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi: fel y caffo dy ych a'th asyn lonyddwch, ac y cymero mab dy forwyn gaeth, a'r dieithr ddyn, ei anadl ato.

13. Ac ymgedwch ym mhob peth a ddywedais wrthych: na chofiwch enw duwiau eraill; na chlywer hynny o'th enau.

14. Tair gwaith yn y flwyddyn y cedwi ŵyl i mi.

15. Gŵyl y bara croyw a gedwi: saith niwrnod y bwytei fara croyw, fel y gorchmynnais i ti, ar yr amser gosodedig o fis Abib: canys ynddo y daethost allan o'r Aifft: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw:

16. A gŵyl cynhaeaf blaenffrwyth dy lafur, yr hwn a heuaist yn y maes; a gŵyl y cynnull yn niwedd y flwyddyn, pan gynullech dy lafur o'r maes.

17. Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr Arglwydd dy Dduw.

18. Nac abertha waed fy aberth gyda bara lefeinllyd; ac nac arhoed braster fy aberth dros nos hyd y bore.

19. Dwg i dŷ'r Arglwydd dy Dduw y cyntaf o flaenffrwyth dy dir. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam.

20. Wele fi yn anfon angel o'th flaen i'th gadw ar y ffordd, ac i'th arwain i'r man a baratoais.

21. Gwylia rhagddo, a gwrando ar ei lais ef; na chyffroa ef: canys ni ddioddef eich anwiredd: oblegid y mae fy enw ynddo ef.

22. Os gan wrando y gwrandewi ar ei lais ef, a gwneuthur y cwbl a lefarwyf; mi a fyddaf elyn i'th elynion, ac a wrthwynebaf dy wrthwynebwyr.

23. Oherwydd fy angel a â o'th flaen di, ac a'th ddwg di i mewn at yr Amoriaid, a'r Hethiaid, a'r Pheresiaid, a'r Canaaneaid, yr Hefiaid, a'r Jebusiaid; a mi a'u difethaf hwynt.

24. Nac ymgryma i'w duwiau hwynt, ac na wasanaetha hwynt, ac na wna yn ôl eu gweithredoedd hwynt; ond llwyr ddinistria hwynt, dryllia eu delwau hwynt yn gandryll.

25. A chwi a wasanaethwch yr Arglwydd eich Duw, ac efe a fendithia dy fara, a'th ddwfr; a mi a dynnaf ymaith bob clefyd o'th fysg.

26. Ni bydd yn dy dir di ddim yn erthylu, na heb hilio: mi a gyflawnaf rifedi dy ddyddiau.

27. Mi a anfonaf fy arswyd o'th flaen, ac a ddifethaf yr holl bobl y deui atynt, ac a wnaf i'th holl elynion droi eu gwarrau atat.

28. A mi a anfonaf gacwn o'th flaen, a hwy a yrrant yr Hefiaid, a'r Canaaneaid, a'r Hethiaid, allan o'th flaen di.

29. Ni yrraf hwynt allan o'th flaen di mewn un flwyddyn; rhag bod y wlad yn anghyfannedd, ac i fwystfilod y maes amlhau yn dy erbyn di.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 23