Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 23:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Na chyfod enllib; na ddod dy law gyda'r annuwiol i fod yn dyst anwir.

2. Na ddilyn liaws i wneuthur drwg; ac nac ateb mewn ymrafael, gan bwyso yn ôl llaweroedd, i ŵyro barn.

3. Na pharcha'r tlawd chwaith yn ei ymrafael.

4. Os cyfarfyddi ag eidion dy elyn, neu â'i asyn, yn myned ar gyfrgoll; dychwel ef adref iddo.

5. Os gweli asyn yr hwn a'th gasâ yn gorwedd dan ei bwn; a beidi â'i gynorthwyo? gan gynorthwyo cynorthwya gydag ef.

6. Na ŵyra farn dy dlawd yn ei ymrafael.

7. Ymgadw ymhell oddi wrth gam fater: na ladd chwaith na'r gwirion na'r cyfiawn: canys ni chyfiawnhaf fi yr annuwiol.

8. Na dderbyn wobr: canys gwobr a ddalla y rhai sydd yn gweled, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.

9. Na orthryma'r dieithr: chwi a wyddoch galon y dieithr; oherwydd chwi a fuoch ddieithriaid yn nhir yr Aifft.

10. Chwe blynedd yr heui dy dir, ac y cesgli ei ffrwyth:

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 23