Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 18:9-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A llawenychodd Jethro oherwydd yr holl ddaioni a wnaethai yr Arglwydd i Israel; yr hwn a waredasai efe o law yr Eifftiaid.

10. A dywedodd Jethro, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a'ch gwaredodd o law yr Eifftiaid, ac o law Pharo; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Eifftiaid.

11. Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr Arglwydd na'r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch ohono, yr oedd efe yn uwch na hwynt.

12. A Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd boethoffrwm ac ebyrth i Dduw: a daeth Aaron, a holl henuriaid Israel, i fwyta bara gyda chwegrwn Moses, gerbron Duw.

13. A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu'r bobl: a safodd y bobl gerbron Moses, o'r bore hyd yr hwyr.

14. A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i'r bobl, efe a ddywedodd, Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i'r bobl? Paham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o'r bore hyd yr hwyr?

15. A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn, Am fod y bobl yn dyfod ataf i ymgynghori â Duw.

16. Pan fyddo iddynt achos, ataf fi y deuant; a myfi sydd yn barnu rhwng pawb a'i gilydd, ac yn hysbysu deddfau Duw a'i gyfreithiau.

17. A dywedodd chwegrwn Moses wrtho, Nid da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur.

18. Tydi a lwyr ddiffygi, a'r bobl yma hefyd y rhai sydd gyda thi: canys rhy drwm yw'r peth i ti; ni elli ei wneuthur ef dy hun.

19. Gwrando ar fy llais i yn awr; mi a'th gynghoraf di, a bydd Duw gyda thi: Bydd di dros y bobl gerbron Duw, a dwg eu hachosion at Dduw.

20. Dysg hefyd iddynt y deddfau a'r cyfreithiau; a hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi, a'r gweithredoedd a wnânt.

21. Ac edrych dithau allan o'r holl bobl am wŷr nerthol, yn ofni Duw, gwŷr geirwir, yn casáu cybydd‐dod; a gosod y rhai hyn arnynt hwy, yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, ac yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.

22. A barnant hwy y bobl bob amser: ond dygant bob peth mawr atat ti, a barnant eu hun bob peth bychan: felly yr ysgafnhei arnat dy hun, a hwynt‐hwy a ddygant y baich gyda thi.

23. Os y peth hyn a wnei, a'i orchymyn o Dduw i ti; yna ti a elli barhau, a'r holl bobl hyn a ddeuant i'w lle mewn heddwch.

24. A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn; ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 18