Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 18:22-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A barnant hwy y bobl bob amser: ond dygant bob peth mawr atat ti, a barnant eu hun bob peth bychan: felly yr ysgafnhei arnat dy hun, a hwynt‐hwy a ddygant y baich gyda thi.

23. Os y peth hyn a wnei, a'i orchymyn o Dduw i ti; yna ti a elli barhau, a'r holl bobl hyn a ddeuant i'w lle mewn heddwch.

24. A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn; ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe.

25. A Moses a ddewisodd wŷr grymus allan o holl Israel, ac a'u rhoddodd hwynt yn benaethiaid ar y bobl; yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.

26. A hwy a farnasant y bobl bob amser: y pethau caled a ddygent at Moses, a phob peth bychan a farnent hwy eu hunain.

27. A Moses a ollyngodd ymaith ei chwegrwn; ac efe a aeth adref i'w wlad.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 18