Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 18:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan glywodd Jethro, offeiriad Midian, chwegrwn Moses, yr hyn oll a wnaethai Duw i Moses, ac i Israel ei bobl, a dwyn o'r Arglwydd Israel allan o'r Aifft;

2. Yna Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd Seffora gwraig Moses, (wedi ei hebrwng hi yn ei hôl,)

3. A'i dau fab hi; o ba rai enw un oedd Gersom: oblegid efe a ddywedasai, Dieithr fûm mewn gwlad estronol.

4. Ac enw y llall oedd Elieser: oherwydd Duw fy nhad oedd gynhorthwy i mi (eb efe), ac a'm hachubodd rhag cleddyf Pharo.

5. A Jethro, chwegrwn Moses, a ddaeth â'i feibion a'i wraig at Moses i'r anialwch, lle yr ydoedd efe yn gwersyllu gerllaw mynydd Duw.

6. Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Myfi Jethro, dy chwegrwn di, sydd yn dyfod atat ti, a'th wraig a'i dau fab gyda hi.

7. A Moses a aeth allan i gyfarfod â'i chwegrwn; ac a ymgrymodd, ac a'i cusanodd; a chyfarchasant well bob un i'w gilydd: a daethant i'r babell.

8. A Moses a fynegodd i'w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr Arglwydd i Pharo ac i'r Eifftiaid, er mwyn Israel; a'r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o'r Arglwydd hwynt.

9. A llawenychodd Jethro oherwydd yr holl ddaioni a wnaethai yr Arglwydd i Israel; yr hwn a waredasai efe o law yr Eifftiaid.

10. A dywedodd Jethro, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a'ch gwaredodd o law yr Eifftiaid, ac o law Pharo; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Eifftiaid.

11. Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr Arglwydd na'r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch ohono, yr oedd efe yn uwch na hwynt.

12. A Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd boethoffrwm ac ebyrth i Dduw: a daeth Aaron, a holl henuriaid Israel, i fwyta bara gyda chwegrwn Moses, gerbron Duw.

13. A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu'r bobl: a safodd y bobl gerbron Moses, o'r bore hyd yr hwyr.

14. A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i'r bobl, efe a ddywedodd, Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i'r bobl? Paham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o'r bore hyd yr hwyr?

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 18