Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 16:12-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Clywais duchan meibion Israel: llefara wrthynt, gan ddywedyd, Yn yr hwyr cewch fwyta cig, a'r bore y'ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

13. Felly yn yr hwyr y soflieir a ddaethant, ac a orchuddiasant y wersyllfa; a'r bore yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwersyll.

14. A phan gododd y gaenen wlith, wele ar hyd wyneb yr anialwch dipynnau crynion cyn faned â'r llwydrew ar y ddaear.

15. Pan welodd meibion Israel hynny, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Manna yw: canys ni wyddent beth ydoedd. A dywedodd Moses wrthynt, Hwn yw y bara a roddodd yr Arglwydd i chwi i'w fwyta.

16. Hyn yw y peth a orchmynnodd yr Arglwydd; Cesglwch ohono bob un yn ôl ei fwyta: omer i bob un yn ôl rhifedi eich eneidiau; cymerwch bob un i'r rhai fyddant yn ei bebyll.

17. A meibion Israel a wnaethant felly; ac a gasglasant, rhai fwy, a rhai lai.

18. A phan fesurasant wrth yr omer, nid oedd gweddill i'r hwn a gasglasai lawer, ac nid oedd eisiau ar yr hwn a gasglasai ychydig: casglasant bob un yn ôl ei fwyta.

19. A dywedodd Moses wrthynt, Na weddilled neb ddim ohono hyd y bore.

20. Er hynny ni wrandawsant ar Moses, ond gado a wnaeth rhai ohono hyd y bore; ac efe a fagodd bryfed, ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt.

21. A hwy a'i casglasant ef bob bore, pob un yn ôl ei fwyta: a phan wresogai yr haul, efe a doddai.

22. Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymaint o fara, dau omer i un: a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses.

23. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hyn yw y peth a lefarodd yr Arglwydd; Yfory y mae gorffwysfa Saboth sanctaidd i'r Arglwydd: pobwch heddiw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a'r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore.

24. A hwy a'i cadwasant hyd y bore, fel y gorchmynasai Moses: ac ni ddrewodd, ac nid oedd pryf ynddo.

25. A dywedodd Moses, Bwytewch hwn heddiw; oblegid Saboth yw heddiw i'r Arglwydd: ni chewch hwn yn y maes heddiw.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 16