16. A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn rhactalau rhwng dy lygaid: canys â llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o'r Aifft.
17. A phan ollyngodd Pharo y bobl, nid arweiniodd yr Arglwydd hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos: oblegid dywedodd Duw, Rhag i'r bobl edifarhau pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft.
18. Ond Duw a arweiniodd y bobl o amgylch, trwy anialwch y môr coch: ac yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlad yr Aifft.