Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 13:12-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Yna y neilltui i'r Arglwydd bob cyntaf‐anedig: a phob cyntaf i anifail a fyddo eiddot ti, y gwrywiaid eiddo yr Arglwydd fyddant.

13. A phob cyntaf i asyn a bryni di ag oen; ac oni phryni di ef, yna torfynygla ef: a phob dyn cyntaf‐anedig o'th feibion a bryni di hefyd.

14. A phan ofynno dy fab ar ôl hyn, gan ddywedyd, Beth yw hyn? yna dywed wrtho, A llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o'r Aifft, o dŷ y caethiwed.

15. A phan oedd anodd gan Pharo ein gollwng ni, y lladdodd yr Arglwydd bob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntaf‐anedig anifail: am hynny yr ydwyf yn aberthu i'r Arglwydd bob gwryw a agoro y groth; ond pob cyntaf‐anedig o'm meibion a brynaf.

16. A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn rhactalau rhwng dy lygaid: canys â llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o'r Aifft.

17. A phan ollyngodd Pharo y bobl, nid arweiniodd yr Arglwydd hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos: oblegid dywedodd Duw, Rhag i'r bobl edifarhau pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft.

18. Ond Duw a arweiniodd y bobl o amgylch, trwy anialwch y môr coch: ac yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlad yr Aifft.

19. A Moses a gymerodd esgyrn Joseff gydag ef: oherwydd efe a wnaethai i feibion Israel dyngu trwy lw, gan ddywedyd, Duw a ymwêl â chwi yn ddiau; dygwch chwithau fy esgyrn oddi yma gyda chwi.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 13