1. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2. Cysegra i mi bob cyntaf‐anedig, sef beth bynnag a agoro y groth ymysg meibion Israel, o ddyn ac anifail: eiddof fi yw.
3. A dywedodd Moses wrth y bobl, Cofiwch y dydd hwn, ar yr hwn y daethoch allan o'r Aifft, o dŷ y caethiwed: oblegid trwy law gadarn y dug yr Arglwydd chwi oddi yno: am hynny na fwytaer bara lefeinllyd.