Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 12:6-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A bydded yng nghadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis hwn: a lladded holl dyrfa cynulleidfa Israel ef yn y cyfnos.

7. A chymerant o'r gwaed, a rhoddant ar y ddau ystlysbost, ac ar gapan drws y tai y bwytânt ef ynddynt.

8. A'r cig a fwytânt y nos honno, wedi ei rostio wrth dân, a bara croyw; gyda dail surion y bwytânt ef.

9. Na fwytewch ohono yn amrwd, na chwaith wedi ei ferwi mewn dwfr, eithr wedi ei rostio wrth dân; ei ben gyda'i draed a'i ymysgaroedd.

10. Ac na weddillwch ddim ohono hyd y bore: a'r hyn fydd yng ngweddill ohono erbyn y bore, llosgwch yn tân.

11. Ac fel hyn y bwytewch ef; wedi gwregysu eich lwynau, a'ch esgidiau am eich traed, a'ch ffyn yn eich dwylo: a bwytewch ef ar ffrwst; Pasg yr Arglwydd ydyw efe.

12. Oherwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aifft y nos hon, ac a drawaf bob cyntaf‐anedig o fewn tir yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail; a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aifft: myfi yw yr Arglwydd.

13. A'r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi; a phan welwyf y gwaed, yna yr af heibio i chwi, ac ni bydd pla dinistriol arnoch chwi, pan drawyf dir yr Aifft.

14. A'r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi; a chwi a'i cedwch ef yn ŵyl i'r Arglwydd trwy eich cenedlaethau: cedwch ef yn ŵyl trwy ddeddf dragwyddol.

15. Saith niwrnod y bwytewch fara croyw; y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o'ch tai: oherwydd pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd o'r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 12