32. Cymerwch eich defaid, a'ch gwartheg hefyd, fel y dywedasoch, ac ewch ymaith, a bendithiwch finnau.
33. A'r Eifftiaid a fuant daerion ar y bobl, gan eu gyrru ar ffrwst allan o'r wlad; oblegid dywedasant, Dynion meirw ydym ni oll.
34. A'r bobl a gymerodd eu toes cyn ei lefeinio, a'u toes oedd wedi ei rwymo yn eu dillad ar eu hysgwyddau.
35. A meibion Israel a wnaethant yn ôl gair Moses; ac a fenthyciasant gan yr Eifftiaid dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd.
36. A'r Arglwydd a roddasai i'r bobl hawddgarwch yng ngolwg yr Eifftiaid, fel yr echwynasant iddynt: a hwy a ysbeiliasant yr Eifftiaid.
37. A meibion Israel a aethant o Rameses i Succoth, ynghylch chwe chan mil o wŷr traed, heblaw plant.
38. A phobl gymysg lawer a aethant i fyny hefyd gyda hwynt; defaid hefyd a gwartheg, sef da lawer iawn.
39. A hwy a bobasant y toes a ddygasant allan o'r Aifft yn deisennau croyw; oherwydd yr oedd heb ei lefeinio: canys gwthiasid hwynt o'r Aifft, ac ni allasant aros, ac ni pharatoesent iddynt eu hun luniaeth.
40. A phreswyliad meibion Israel, tra y trigasant yn yr Aifft, oedd ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd.
41. Ac ymhen y deng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd, ie, o fewn corff y dydd hwnnw, yr aeth holl luoedd yr Arglwydd allan o wlad yr Aifft.
42. Nos yw hon i'w chadw i'r Arglwydd, ar yr hon y dygwyd hwynt allan o wlad yr Aifft: nos yr Arglwydd yw hon, i holl feibion Israel i'w chadw trwy eu hoesoedd.
43. Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses ac Aaron, Dyma ddeddf y Pasg: na fwytaed neb dieithr ohono.
44. Ond pob gwasanaethwr wedi ei brynu am arian, gwedi yr enwaedych ef, a fwyty ohono.
45. Yr alltud, a'r gwas cyflog, ni chaiff fwyta ohono.
46. Mewn un tŷ y bwyteir ef: na ddwg ddim o'r cig allan o'r tŷ; ac na thorrwch asgwrn ohono.
47. Holl gynulleidfa Israel a wnânt hynny.
48. A phan arhoso dieithr gyda thi, ac ewyllysio cadw Pasg i'r Arglwydd, enwaeder ei holl wrywiaid ef, ac yna nesaed i wneuthur hynny; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwytaed neb dienwaededig ohono.
49. Yr un gyfraith fydd i'r priodor, ac i'r dieithr a arhoso yn eich mysg.
50. Yna holl feibion Israel a wnaethant fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron; felly y gwnaethant.