1. Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses ac Aaron yn nhir yr Aifft, gan ddywedyd,
2. Y mis hwn fydd i chwi yn ddechreuad y misoedd: cyntaf fydd i chwi o fisoedd y flwyddyn.
3. Lleferwch wrth holl gynulleidfa Israel, gan ddywedyd, Ar y degfed dydd o'r mis hwn cymerant iddynt bob un oen, yn ôl teulu eu tadau, sef oen dros bob teulu.
4. Ond os y teulu fydd ry fychan i'r oen, efe a'i gymydog nesaf i'w dŷ a'i cymer, wrth y rhifedi o ddynion; pob un yn ôl ei fwyta a gyfrifwch at yr oen.
5. Bydded yr oen gennych yn berffaith‐gwbl, yn wryw, ac yn llwdn blwydd: o'r defaid, neu o'r geifr, y cymerwch ef.
6. A bydded yng nghadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis hwn: a lladded holl dyrfa cynulleidfa Israel ef yn y cyfnos.
7. A chymerant o'r gwaed, a rhoddant ar y ddau ystlysbost, ac ar gapan drws y tai y bwytânt ef ynddynt.
8. A'r cig a fwytânt y nos honno, wedi ei rostio wrth dân, a bara croyw; gyda dail surion y bwytânt ef.
9. Na fwytewch ohono yn amrwd, na chwaith wedi ei ferwi mewn dwfr, eithr wedi ei rostio wrth dân; ei ben gyda'i draed a'i ymysgaroedd.
10. Ac na weddillwch ddim ohono hyd y bore: a'r hyn fydd yng ngweddill ohono erbyn y bore, llosgwch yn tân.
11. Ac fel hyn y bwytewch ef; wedi gwregysu eich lwynau, a'ch esgidiau am eich traed, a'ch ffyn yn eich dwylo: a bwytewch ef ar ffrwst; Pasg yr Arglwydd ydyw efe.