Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 10:17-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Ac yn awr maddau, atolwg, fy mhechod y waith hon yn unig, a gweddïwch ar yr Arglwydd eich Duw, ar iddo dynnu oddi wrthyf y farwolaeth hon yn unig.

18. A Moses a aeth allan oddi wrth Pharo, ac a weddïodd ar yr Arglwydd.

19. A'r Arglwydd a drodd wynt gorllewin cryf iawn, ac efe a gymerodd ymaith y locustiaid, ac a'u bwriodd hwynt i'r môr coch: ni adawyd un locust o fewn holl derfynau yr Aifft.

20. Er hynny caledodd yr Arglwydd galon Pharo, fel na ollyngai efe feibion Israel ymaith.

21. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Estyn dy law tua'r nefoedd, fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aifft, tywyllwch a aller ei deimlo.

22. A Moses a estynnodd ei law tua'r nefoedd: a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aifft dri diwrnod.

23. Ni welai neb ei gilydd, ac ni chododd neb o'i le dri diwrnod: ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau.

24. A galwodd Pharo am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, gwasanaethwch yr Arglwydd; arhoed eich defaid, a'ch gwartheg yn unig; aed eich rhai bach hefyd gyda chwi.

25. A dywedodd Moses, Ti a roddi hefyd yn ein dwylo ebyrth a phoethoffrymau, fel yr aberthom i'r Arglwydd ein Duw.

26. Aed ein hanifeiliaid hefyd gyda ni; ni adewir ewin yn ôl: oblegid ohonynt y cymerwn i wasanaethu yr Arglwydd ein Duw: ac nis gwyddom â pha beth y gwasanaethwn yr Arglwydd, hyd oni ddelom yno.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 10