13. A Moses a estynnodd ei wialen ar dir yr Aifft: a'r Arglwydd a ddug ddwyreinwynt ar y tir yr holl ddiwrnod hwnnw, a'r holl nos honno; a phan ddaeth y bore, gwynt y dwyrain a ddug locustiaid.
14. A'r locustiaid a aethant i fyny dros holl wlad yr Aifft, ac a arosasant ym mhob ardal i'r Aifft: blin iawn oeddynt; ni bu'r fath locustiaid o'u blaen hwynt, ac ar eu hôl ni bydd y cyffelyb.
15. Canys toesant wyneb yr holl dir, a thywyllodd y wlad; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillasai y cenllysg: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lysiau y maes, o fewn holl wlad yr Aifft.
16. Yna Pharo a alwodd am Moses ac Aaron ar frys; ac a ddywedodd, Pechais yn erbyn yr Arglwydd eich Duw, ac yn eich erbyn chwithau.
17. Ac yn awr maddau, atolwg, fy mhechod y waith hon yn unig, a gweddïwch ar yr Arglwydd eich Duw, ar iddo dynnu oddi wrthyf y farwolaeth hon yn unig.
18. A Moses a aeth allan oddi wrth Pharo, ac a weddïodd ar yr Arglwydd.
19. A'r Arglwydd a drodd wynt gorllewin cryf iawn, ac efe a gymerodd ymaith y locustiaid, ac a'u bwriodd hwynt i'r môr coch: ni adawyd un locust o fewn holl derfynau yr Aifft.
20. Er hynny caledodd yr Arglwydd galon Pharo, fel na ollyngai efe feibion Israel ymaith.
21. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Estyn dy law tua'r nefoedd, fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aifft, tywyllwch a aller ei deimlo.
22. A Moses a estynnodd ei law tua'r nefoedd: a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aifft dri diwrnod.
23. Ni welai neb ei gilydd, ac ni chododd neb o'i le dri diwrnod: ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau.