Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 10:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos at Pharo: oherwydd mi a galedais ei galon ef, a chalon ei weision; fel y dangoswn fy arwyddion hyn yn ei ŵydd ef:

2. Ac fel y mynegit wrth dy fab, a mab dy fab, yr hyn a wneuthum yn yr Aifft, a'm harwyddion a wneuthum yn eu plith hwynt; ac y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

3. A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharo, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.

4. Oherwydd os ti a wrthodi ollwng fy mhobl, wele, yfory y dygaf locustiaid i'th fro;

5. A hwynt‐hwy a orchuddiant wyneb y ddaear, fel na allo un weled y ddaear: a hwy a ysant y gweddill a adawyd i chwi yn ddihangol gan y cenllysg; difânt hefyd bob pren a fyddo yn blaguro i chwi yn y maes.

6. Llanwant hefyd dy dai di, a thai dy holl weision, a thai yr holl Eifftiaid, y rhai ni welodd dy dadau, na thadau dy dadau, er y dydd y buont ar y ddaear hyd y dydd hwn. Yna efe a drodd, ac a aeth allan oddi wrth Pharo.

7. A gweision Pharo a ddywedasant wrtho, Pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni? gollwng ymaith y gwŷr, fel y gwasanaethont yr Arglwydd eu Duw: Oni wyddost ti eto ddifetha'r Aifft?

8. A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharo: ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, gwasanaethwch yr Arglwydd eich Duw: ond pa rai sydd yn myned?

9. A Moses a ddywedodd, A'n llanciau, ac â'n hynafgwyr, yr awn ni; â'n meibion hefyd, ac â'n merched, â'n defaid, ac â'n gwartheg, yr awn ni: oblegid rhaid i ni gadw gŵyl i'r Arglwydd

10. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr un modd y byddo'r Arglwydd gyda chwi, ag y gollyngaf chwi, a'ch rhai bach: gwelwch, mai ar ddrwg y mae eich bryd.

11. Nid felly; ewch yn awr, y gwŷr, a gwasanaethwch yr Arglwydd: canys hyn yr oeddech yn ei geisio. Felly hwy a yrrwyd allan o ŵydd Pharo.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 10